Rhyw anifail wyf heb ddeall,
A rhyw eiddil llesg heb rym,
T'wyllwch dudew a ffieidd-dra,
Nid oes ynof arall ddim;
Iachawdwriaeth
Râd i mi, neu golli'r nef.
Tôr fy nghalon galed gyndyn
Tôr hi'n awr yn ddrylliau mân:
Tôr bob rhwystr sydd yn attal
It' dy hunan dd'od ymlaen:
Eistedd yma,
A'th derynwialen yn dy law.
Cymer, Iesu, fi fel yr ydwyf,
Fyth ni allaf fod yn well;
D'allu di a'm gwna yn agos
'Nhuedd i yw myn'd ymhell:
Yn dy glwyfau
Byddai'n unig fyth yn iach.
William Williams 1717-91
[Mesur: 878747] gwelir: Cymer Iesu fi fel 'r ydwyf Gwaed dy groes sy'n codi i fyny |
Some animal am I without understanding,
And some feeble faint one without force,
Thick black darkness and loathsomeness,
There is nothing else in me;
Salvation
Free to me, or losing heaven.
Break my hard, stubborn heart
Break it now into small pieces:
Break every frustration that is preventing
Thee thyself from coming forward:
Sit here,
With thy sceptre in thy hand.
Take, me Jesus, as I am,
Never can I be better;
Thy power shall make me near
My tendency is to go far afar:
In thy wounds
Alone would I ever be whole.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|